Eruca sativa

Eruca sativa
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Brassicales
Teulu: Brassicaceae
Genws: Eruca
Rhywogaeth: E. sativa
Enw deuenwol
Eruca sativa
Mill.

Planhigyn bwytadwy a llysieuyn rhinweddol ydy Eruca sativa (syn. E. vesicaria subsp. sativa (Miller) Thell., Brassica eruca L.) a adnabyddir yn Gymraeg fel dail roced ac yn yr Unol Daleithiau fel arugula. Caiff weithiau ei gamgymryd am lysieuyn tebyg, sef Diplotaxis tenuifolia sydd hefyd yn blanhigyn bwytadwy, yn enwedig mewn salad.

Mae'n perthyn i deulu'r fresychen (Brassicaceae). Mae'n frodorol o wledydd y Môr Canoldir: o Foroco a Phortiwgal yn y gorllewin i Syria, Libanus a Thwrci yn y dwyrain.[1][2]

Daw'r gair Lladin sativa o'r gair hynafol am 'hau' (sef sero), oherwydd yr arferiad o'u hau mewn gerddi er mwyn eu tyfu a'u bwyta.[3][4]

Gall dyfu i uchder o 20–100 centimetre (8–39 in) ac mae'r blodau yn 2–4 cm (0.8–1.6 in) mewn diametr, gyda phetalau o liw hufen neu wyn a briger melyn. Caiff y sepalau eu diosg wrth i'r petalau agor. 12–35 millimetre (0.5–1.4 in) yw maint y ffrwyth ac mae ganddo 'big' hir sy'n cynnwys hadau bwytadwy. Rhif cromoson y rhywogaeth hwn yw 2n = 22.[2][4][5]

  1. Med-Checklist: Eruca sativa.
  2. 2.0 2.1 Blamey, M. & Grey-Wilson, C. (1989). Flora of Britain and Northern Europe. ISBN 0-340-40170-2.
  3. Gweler: sativa.
  4. 4.0 4.1 Flora of NW Europe: Eruca vesicaria Archifwyd 2007-10-14 yn y Peiriant Wayback.
  5. Huxley, A., ed. (1992). New RHS Dictionary of Gardening. Macmillan ISBN 0-333-47494-5.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy